Careers

Content & Services Director / Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau, BBC Cymru Wales

Job Introduction

Here at BBC Wales our mission is to fire the imagination, inspiring all our audiences to discover and make sense of Wales. 

We champion the best talent and boldest ideas for both national and UK audiences and we do all this on a canvas big enough to make a difference, not just to our audiences, but to Wales itself. 

Now more than ever we must be responsive to our audience and create content which truly reflects our society - delivering the best value for our licence fee payers across Wales.

We have an outstanding opportunity for a Head of Content & Services to join us.   This is a key senior role, critical to the success of BBC Wales.  Reporting to the Director, Nations, this role will ensure BBC Wales develops a content portfolio in both languages that increases the value we offer audiences – encompassing a full range of informative, educative and entertaining content, and embracing innovation and challenge across all genres and platforms.

Yma yn BBC Cymru, ein cenhadaeth ydy tanio’r dychymyg ac ysbrydoli ein cynulleidfaoedd i ddarganfod Cymru a gwneud synnwyr ohoni. 

Rydyn ni’n hyrwyddo’r doniau gorau a’r syniadau mwyaf beiddgar ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a’r DU ac rydyn ni’n gwneud hyn i gyd ar gynfas sy’n ddigon mawr i wneud gwahaniaeth, nid yn unig i’n cynulleidfaoedd, ond i Gymru ei hun. 

Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni ymateb i’n cynulleidfa a chreu cynnwys sy’n adlewyrchu ein cymdeithas – gan ddarparu’r gwerth gorau i dalwyr ffi’r drwydded yng Nghymru.

Dyma gyfle gwych i Bennaeth Cynnwys a Gwasanaethau ymuno â ni.  Mae hon yn swydd bwysig ar lefel uchel, sy’n hanfodol i lwyddiant BBC Cymru.  Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Gwledydd, bydd deiliad y swydd hon yn sicrhau bod BBC Cymru yn datblygu portffolio cynnwys yn y ddwy iaith sy’n cynyddu’r gwerth rydyn ni’n ei gynnig i gynulleidfaoedd – gan gynnwys ystod lawn o gynnwys sy’n hysbysu, addysgu a diddanu, a chroesawu arloesedd a heriau ar draws pob genre a llwyfan.

Role Responsibility

As Head of Content & Services you’ll spearhead the Wales Executive Team in devising the content strategy and editorial priorities for BBC Wales across all media platforms and services, ensuring that the BBC delivers its public purpose, maximises return on investment and delivers enhanced audience impact and appreciation in both Welsh and English.

For the BBC to continually make impact in Wales and further afield, we must represent all of our audiences whilst stimulating the creative economy.   As Head of Content & Services you’ll  prioritise and manage all content investment to maximise value for money and ensure the BBC serves all its audiences effectively, including diverse and under-represented communities. The portfolio includes Radio Wales, Radio Cymru, Radio Cymru 2, a broad range of news and sport, online services, and TV and iPlayer content for BBC One Wales and S4C.

Collaborations and co-commissions with Network colleagues and counterparts across Nations will be core to driving portrayal and a range of high quality content across the genres.    These relationships will enable us to develop a sustainable business model and reflect the diverse make up of Wales both on and off-screen. 

Fel Pennaeth Cynnwys a Gwasanaethau, byddwch chi’n arwain Tîm Gweithredol Cymru wrth iddo lunio’r strategaeth cynnwys a’r blaenoriaethau golygyddol ar gyfer BBC Cymru ar draws holl wasanaethau a llwyfannau’r cyfryngau, gan sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei ddiben cyhoeddus, yn sicrhau’r elw mwyaf posibl ar fuddsoddiadau ac yn sicrhau mwy o werthfawrogiad ac effaith ar y gynulleidfa yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Er mwyn i’r BBC barhau i gael effaith yng Nghymru a thu hwnt, mae’n rhaid i ni gynrychioli ein holl gynulleidfaoedd ac ysgogi’r economi greadigol ar yr un pryd.  Fel Pennaeth Cynnwys a Gwasanaethau, byddwch chi’n blaenoriaethu ac yn rheoli’r holl fuddsoddiad mewn cynnwys er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian a sicrhau bod y BBC yn gwasanaethu ei holl gynulleidfaoedd yn effeithiol, gan gynnwys cymunedau amrywiol sy’n cael eu tangynrychioli. Mae’r portffolio’n cynnwys Radio Wales, Radio Cymru, Radio Cymru 2, amrywiaeth eang o newyddion a chwaraeon, gwasanaethau ar-lein, a chynnwys teledu ac iPlayer ar gyfer BBC One Wales ac S4C.

Bydd cydweithio a chomisiynu ar y cyd â chydweithwyr a chymheiriaid Rhwydwaith ar draws y Gwledydd yn rhan greiddiol o hybu portreadau ac amrywiaeth mewn cynnwys o ansawdd uchel ar draws y genres.  Bydd y cysylltiadau hyn yn ein galluogi i ddatblygu model busnes cynaliadwy ac adlewyrchu cyfansoddiad amrywiol Cymru ar y sgrin ac oddi arno. 

The Ideal Candidate

A recognised creative leader, you will have the credibility and experience to manage such a diverse portfolio and will have a passionate interest in audiences.

Ideally you’ll have significant experience gained in a range of content creation environments with a track record of delivering exceptional creativity.   You will have the credibility and experience to manage a diverse portfolio in both English and Welsh language and demonstrate the ambition, insight and creativity to deliver significant audience impact.

It is imperative you have sound editorial judgement, a good knowledge of audiences and the content they love, as well as the issues affecting the media industry.   You will be a strong communicator and act as an ambassador, not only for BBC Wales; but for the wider media sector - forging strong relationships with independent production companies, BBC Studios and other partners.

You will provide effective leadership to a wide range of content production staff and deliver value for money for BBC licence fee payers.

Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yw prif ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus y byd ac mae ganddi le arbennig ym mywyd diwylliannol y DU. Mae ei chenhadaeth wedi’i diffinio gan Siarter Frenhinol: gweithredu er budd y cyhoedd, gan wasanaethu’r holl gynulleidfaoedd drwy ddarparu allbwn a gwasanaethau diduedd a neilltuol o ansawdd da sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu.

Mae’r BBC yn cael ei ariannu’n bennaf gan ffi’r drwydded, sy’n cael ei hategu gan refeniw o weithrediadau masnachol y BBC. Mae’n ceisio darparu cynnwys unigryw sy’n cyflawni ei ddibenion cyhoeddus ac mae’n gwneud hynny drwy wasanaethau ar-lein, newyddion, radio a theledu arobryn ac sy’n darparu ar gyfer pob cynulleidfa, yn y DU ac yn fyd-eang.

Package Description

For this role  /  Ar gyfer y swydd yma:

Welsh language skills are desirable  /  Mae sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn ddymunol

Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.  /   Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

We’re happy to discuss flexible working.  Please indicate your choice under the flexible working question in the application.  There is no obligation to raise this at the application stage but if you wish to do so, you are welcome to.  Flexible working will be part of the discussion at offer stage. 

  • Excellent career progression – the BBC offers great opportunities for employees to seek new challenges and work in different areas of the organisation.
  • Unrivalled training and development opportunities – our in-house Academy hosts a wide range of internal and external courses and certification.
  • Benefits - We offer a competitive salary package, a flexible 35-hour working week for work-life balance and 25 days holiday with the option to buy an extra 5 days, a defined pension scheme and discounted dental, health care, gym and much more.

Rydyn ni’n fodlon trafod gweithio’n hyblyg.  Rhowch eich dewis o dan y cwestiwn gweithio’n hyblyg yn y cais.  Does dim rhaid codi hyn ar y cam ymgeisio, ond mae croeso i chi wneud hynny os ydych chi’n dymuno.  Bydd gweithio’n hyblyg yn rhan o’r drafodaeth ar y cam cynnig. 

  • Cyfle rhagorol i ddatblygu gyrfa – mae'r BBC yn cynnig cyfleoedd gwych i weithwyr chwilio am heriau newydd a gweithio mewn gwahanol rannau o’r sefydliad.
  • Cyfleoedd di-ail i hyfforddi a datblygu mae’r Academi fewnol yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ac ardystiadau mewnol ac allanol.
  • Buddion - Rydym yn cynnig pecyn cyflog cystadleuol, wythnos waith hyblyg 35 awr er lles cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a 25 diwrnod o wyliau gyda’r opsiwn i brynu 5 diwrnod ychwanegol, cynllun pensiwn wedi'i ddiffinio, a gostyngiadau ar ddeintyddiaeth, gofal iechyd, campfa a llawer mwy.

About the Company

We don’t focus simply on what we do – we also care how we do it. Our values and the way we behave are important to us. Please make sure you’ve read about our values and behaviours in the document attached below.

Diversity matters at the BBC.  We have a working environment where we value and respect every individual's unique contribution, enabling all of our employees to thrive and achieve their full potential.

We want to attract the broadest range of talented people to be part of the BBC – whether that’s to contribute to our programming or our wide range of non-production roles.  The more diverse our workforce, the better able we are to respond to and reflect our audiences in all their diversity. 

We are committed to equality of opportunity and welcome applications from individuals, regardless of age, gender, ethnicity, disability, sexuality, social background, religion and/or belief.  We will consider flexible working requests for all roles, unless operational requirements prevent otherwise. 

To find out more about Diversity and Inclusion at the BBC, please click here

Rydym yn canolbwyntio ar fwy na’r hyn rydym yn ei wneud – mae sut rydym yn gwneud pethau’n bwysig i ni hefyd. Mae ein gwerthoedd a’n hymddygiad yn bwysig i ni. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen am ein gwerthoedd a’n hymddygiad yn y ddogfen sydd wedi ei hatodi isod.

Mae amrywiaeth yn cyfrif yn y BBC.  Mae gennym amgylchedd gwaith lle yr ydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniad unigryw pob unigolyn, gan alluogi pob un o’n gweithwyr i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn.

Rydym eisiau denu’r ystod ehangaf o bobl dalentog i fod yn rhan o’r BBC – boed hynny i gyfrannu i’n rhaglenni neu i’n hystod eang o swyddi nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu.  Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y mwyaf y bydd modd i ni ymateb i’n cynulleidfaoedd a’u hadlewyrchu yn eu holl amrywiaeth. 

Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb cyfle ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb, cefndir cymdeithasol, crefydd a/neu gred.  Ac rydym yn hyrwyddo cyfleoedd i weithio’n hyblyg pan fo anghenion gweithredol yn caniatáu hynny.  

I ganfod mwy am Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y BBC, cliciwch yma

Apply

This website is using cookies to improve your browsing experience. If you navigate to another page without changing the settings below you consent to this. Read more about cookies.

  

This website is using cookies to improve your browsing experience. If you navigate to another page without changing the settings below you consent to this. Read more about cookies.