Cyflwyniad i'r Swydd
Rydym am benodi person talentog i weithio i'r BBC ym maes y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg.
Yn rhan o dîm y Gwasanaethau Ar-lein Cymraeg, bydd y cynhyrchydd yn creu cynnwys ffurf-fer (fel fideos) ar gyfer platfformau ar-lein BBC Cymru, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol. Bydd yn gweithio’n agos gyda thimau cynhyrchu ar draws BBC Cymru, yn cynnwys Cymru Fyw a Radio Cymru, gan gynnig arweiniad a chyngor ar eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol.
Cyfrifoldeb y Rôl
Mae prif gyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys cynnig, datblygu a chreu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru yn Gymraeg. Bydd angen i chi adnabod cynnwys da er mwyn ei gyflwyno a’i rannu mewn ffyrdd deniadol ar gyfryngau cymdeithasol y BBC a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynhyrchu cynnwys ffurf-fer (short form), fel fideos a graffeg, i’w gyhoeddi ar blatfformau ar-lein BBC Cymru – yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.
Byddwch yn dadansoddi ac ymateb i ffigyrau defnydd ar-lein, a chyfrannu at strategaeth BBC Cymru ym maes y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg a chreu a chynnal amserlenni er mwyn cynllunio yn effeithiol a threfnus.
Yr Ymgeisydd Delfrydol
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd yn rhugl mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, sydd â’r gallu i ysgrifennu yn Gymraeg yn glir a chywir mewn arddull sydd yn hawdd ei deall.
Mae dealltwriaeth, hyder a phrofiad helaeth o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol e.e. Twitter, Facebook, Instagram yn hanfodol yn ogystal â phrofiad o gynhyrchu fideos, yn ddelfrydol ar gyfer platfformau ar-lein. Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd â phrofiad o gynnig a datblygu syniadau newydd.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n hyblyg, weithiau yn ystod oriau anghymdeithasol, er enghraifft ar benwythnosau a gyda’r nos.
Rydym yn hapus i ystyried ceisiadau i weithio’n hyblyg ( e.e. rhan amser, rhannu swydd ayyb ) ar gyfer y rôl hon.
Disgrifiad o'r Pecyn
For this role / Ar gyfer y swydd yma:
Welsh language skills are essential / Mae sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn hanfodol
Cytundeb Parhaol
Lleolir y swydd yng Nghymru (lleoliad yn hyblyg)
Band arfaethedig C (Gradd 7)
Am y cwmni
Nid ydym yn canolbwyntio ar yr hyn a wnawn yn unig - mae'r ffordd rydym yn ei gyflawni hefyd yn bwysig i ni. Mae ein gwerthoedd a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn bwysig iawn i ni. Sicrhewch eich bod wedi darllen am ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn y ddogfen sydd wedi'i hatodi isod. Byddwn yn gofyn cwestiynau sy'n ymwneud â hwy fel rhan o'ch cais am y rôl hon.
Mae’r BBC wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu aml-ddiwylliannol felly rydym yn annog yn frwd geisiadau gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, beth bynnag yw eu cefndir.
Ar hyn o bryd mae'r BBC yn gweithredu Fframwaith Llwybr Gyrfa a fydd yn arwain at staff yn cael eu halinio i deitlau swyddi a swydd ddisgrifiadau cyffredinol. Felly, efallai bydd teitlau swyddi ymgeiswyr llwyddiannus yn newid i fod ychydig yn wahanol yn fuan ar ôl ymuno â'r BBC.