Cyflwyniad i'r Swydd
Gyda dros 350 awr o allbwn mewnol y flwyddyn, mae BBC Studios yn cynhyrchu rhai o'r rhaglenni teledu mwyaf gwreiddiol, amrywiol ac uchel eu parch. Mae'r rhain yn amrywio o gyfresi drama parhaus fel Pobol y Cwm, Casualty, Doctors, Holby City ac EastEnders i gyfresi a storïau cyfres dydd fel Father Brown a Shakespeare & Hathaway, i enwi ond ychydig!
Cyfrifoldeb y Rôl
Byddwch yn adrodd i’r Cynhyrchydd y Gyfres a’r Cynhyrchydd.
Bydd eich dyletswyddau’n cynnwys y canlynol:-
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Stori i gyflwyno drama o ansawdd uchel, sy'n gost-effeithiol o fewn fframwaith Canllawiau Golygyddol y BBC a'r amcanion Corfforaethol
- Mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd storïo’r gyfres
- Creu syniadau straeon a llinell-storïau clir, creadigol o'r safon uchaf, sy'n gyson â gweledigaeth olygyddol y gyfres ar y cyd â’r awduron llawrydd a’r Cynhyrchydd Stori
- Dadansoddi a datrys unrhyw broblemau strwythurol mewn straeon neu frasluniau
- Mynychu cyfarfodydd brasluniau a chyfleu nodiadau’r gyfres i’r awduron llawrydd
- Darparu'r holl waith ymchwil sydd ei angen ar unrhyw stori
- Annog, meithrin a datblygu talent a gallu creadigol ar ran Pobol y Cwm
- Cynorthwyo'r Cynhyrchydd Stori yn ôl yr angen
Yr Ymgeisydd Delfrydol
I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen i chi ddangos y nodweddion canlynol:
Meddwl yn ddadansoddol a gallu symleiddio problemau cymhleth, prosesu prosiectau yn gydrannau a'u harchwilio a'u gwerthuso yn systematig. Gallu nodi cydberthnasau achosol a llunio fframweithiau er mwyn datrys problemau a/neu ddatblygu.
Cyfathrebu - y gallu i fynegi syniadau yn glir ac addasu arddull gyfathrebu i anghenion pobl eraill gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau ac ymagweddau sy'n addas i'r gynulleidfa a natur yr wybodaeth. Y gallu i ddeall effaith arddull gyfathrebu bersonol ar eraill.
Meddwl yn greadigol Gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
Barn Olygyddol - Y gallu i ddangos barn gytbwys a gwrthrychol yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o frîff comisiynu'r prosiect, gofynion y gynulleidfa, canllawiau ac amcanion y prosiect.
Rheoli cydberthnasau a gweithio mewn tîm – Y gallu i greu a chynnal cydberthynas waith effeithiol ag amrywiaeth o bobl. Cydweithio ag eraill i fod yn rhan o dîm, yn hytrach na gweithio fel unigolyn neu'n gystadleuol a profiad o ysgrifennu creadigol.
#youmakethebbc
Disgrifiad o'r Pecyn
Ar gyfer y swydd yma:
Mae sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn hanfodol
Hyd y Cytundeb - 7 Mis
Band - C
Lleoliad – Caerdydd
Oriau – Oriau Cynhyrchu Drama
**Mae’r disgrifiad swydd sydd yn ynglwm am rôl Golygydd Sgript ond mae’r hysbyseb yma am rôl Golygydd Stori. Gallwch ffeindio’r anghenion a dyletswyddau penodol ar gyfer y rôl yma isod**
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
- Cyfle rhagorol i ddatblygu gyrfa – mae'r BBC yn cynnig cyfleoedd gwych i weithwyr chwilio am heriau newydd a gweithio mewn gwahanol rannau o’r sefydliad.
- Cyfleoedd di-ail i hyfforddi a datblygu – mae’r Academi fewnol yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ac ardystiadau mewnol ac allanol.
Am y cwmni
Rydym yn canolbwyntio ar fwy na’r hyn rydym yn ei wneud – mae sut rydym yn gwneud pethau’n bwysig i ni hefyd. Mae ein gwerthoedd a’n hymddygiad yn bwysig i ni. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen am ein gwerthoedd a’n hymddygiad yn y ddogfen sydd wedi ei hatodi isod.
Mae amrywiaeth yn cyfrif yn y BBC. Mae gennym amgylchedd gwaith lle yr ydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniad unigryw pob unigolyn, gan alluogi pob un o’n gweithwyr i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn.
Rydym eisiau denu’r ystod ehangaf o bobl dalentog i fod yn rhan o’r BBC – boed hynny i gyfrannu i’n rhaglenni neu i’n hystod eang o swyddi nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y mwyaf y bydd modd i ni ymateb i’n cynulleidfaoedd a’u hadlewyrchu yn eu holl amrywiaeth.
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb cyfle ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb, cefndir cymdeithasol, crefydd a/neu gred. Ac rydym yn hyrwyddo cyfleoedd i weithio’n hyblyg pan fo anghenion gweithredol yn caniatáu hynny.
I ganfod mwy am Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y BBC, cliciwch yma