Cyflwyniad i'r Swydd
Cyflwyniad i’r swydd
Rydych chi’n gwneud cais am leoliad Radio Cymru fel rhan o gynllun Prentisiaeth Cynhyrchu Cymru.
Ar y cynllun hwn byddwch yn astudio am 18 mis – gyda chymhwyster prentisiaeth lefel 3 – a hefyd yn dysgu yn y gwaith.
Cewch gyfle yn Radio Cymru i weithio mewn adran sy’n creu cynnwys aml lwyfan. Mi ddysgwch sut i baratoi rhaglenni byw a chynnwys wedi ei recordio, gan ddatblygu sgiliau ymchwilio a chynhyrchu. Bydd hefyd gyfle i baratoi cynnwys ysgrifenedig a fideo i’n gwasanaethau arlein a chyfryngau cymdeithasol. P’run ai ydych chi’n ymddiddori mewn cerddoriaeth, eitemau nodwedd, newyddiaduraeth, drama neu gomedi, mae’r adran hon yn cynnig arlwy gyfoethog a chyffrous.
Pan fyddwch yn gwneud cais am leoliad Radio Cymru, bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer adrannau eraill fel rhan o gynllun Prentisiaeth Cynhyrchu cyffredinol Cymru. Isod ceir rhestr o’r adrannau eraill sy’n cynnig lleoliadau. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y meysydd hyn, dilynwch y ddolen hon:
- Dramâu Teledu
- Adloniant Ffeithiol ar y Teledu a Cherddoriaeth
- BBC Sport Wales
- Radio Wales
- Addysg ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd
- Y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig
Yr Ymgeisydd Delfrydol
Ai ti yw’r ymgeisydd cywir?
Dydyn ni ddim yn edrych ar gymwysterau – does dim gofyniad mynediad academaidd. Rydyn ni eisiau i chi fod yn frwdfrydig ac yn chwilfrydig am bob math o gynnwys - y teledu, y radio yn ogystal â chynnwys ar-lein – ac yn awyddus i ddysgu’r broses gynhyrchu o’r dechrau i’r diwedd.
Yn eich cais, rydyn ni eisiau gwybod am eich diddordebau personol, eich sgiliau neu hyd yn oed eich profiad gwaith, sydd wedi eich ysbrydoli i gymryd y cam nesaf hwn!
Gwnewch gymaint o waith ymchwil ag sy’n bosibl am ein rolau a’r rhaglenni rydyn ni’n eu gwneud. Mae llawer o adnoddau ar gael i gael gwybod mwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud.
• Byddwch yn aelod gwych o dîm – ar y cynllun hwn, byddwch yn gweithio ar raglenni go iawn gyda’n timau cynhyrchu, yn dysgu ac yn ennill profiad bob dydd. Wrth i chi weithio mewn amgylchedd proffesiynol, efallai y byddwch yn wynebu rhai heriau ar hyd y ffordd!
• Byddwch yn hyblyg ac yn barod i addasu oherwydd cyflymder y gwaith, y dysgu a’r gofynion cynhyrchu – dydy gweithio yn y BBC ddim bob amser yn swydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9 tan 5.
Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl sydd heb raddio. Os oes gennych chi radd eisoes, bydden ni’n eich annog i chwilio am swyddi gwag eraill ar gyfer rolau lefel mynediad: https://careerssearch.bbc.co.uk/
Oherwydd ystyriaethau iechyd a diogelwch, ni allwn dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n iau na 18 oed ar ddechrau'r brentisiaeth. Does dim terfyn oedran uchaf.
Beth ydyn ni’n ei gynnig?
• Cyflog o £14,400 y flwyddyn (pro-rata)
• Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol sy’n cael ei darparu gan ddarparwr hyfforddiant profiadol a sefydledig – Sgil Cymru
• 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Yn ogystal â gwyliau banc, byddwch hefyd yn cael diwrnod ychwanegol o wyliau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
• Hyfforddiant diwydiant yn cael ei ddarparu gan BBC Academy gan arbenigwyr ac uwch staff cynhyrchu’r BBC, staff cynhyrchu a staff technegol llawrydd.
Y broses ymgeisio
- Byddwch yn llenwi ffurflen gais sy’n gofyn i chi pam ydych chi eisiau bod ar y cynllun Prentisiaeth Cynhyrchu.
- Ar ôl y dyddiad cau, bydd eich cais yn cael ei adolygu ac os bydd yn dangos eich bod yn frwd dros ymuno â’r cynllun, byddwch yn cael eich gwahodd i fynd ymlaen i'r cam nesaf. Byddwn yn gofyn i chi ateb nifer o gwestiynau sy’n berthnasol i'r cynllun yn ystod y cam hwn. Bydd hyn yn ein helpu i ddod i’ch adnabod yn well.
- Os cewch eich gwahodd i’r cam nesaf, byddwn yn gofyn i chi ddod i Ddiwrnod Asesu.
Mae’r cynllun Prentisiaeth yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Disgrifiad o'r Pecyn
Dyddiad Dechrau: Ionawr 2022
Hyd y Cynllun: Rhaglen 18 mis
Lleoliadau: Caerdydd, Cymru
Rolau arferol ar ôl dilyn y cynllun: Ymchwilydd Iau, Cynorthwyydd Cynnwys ac ati.
Ar gyfer y swydd yma mae sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn hanfodol.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Am y cwmni
Amrywiaeth
Rydyn ni’n hyrwyddo amrywiaeth ac yn hybu amgylchedd gwaith da i bob aelod o staff presennol a darpar aelodau o staff, gan sicrhau bod ein holl weithwyr yn cael eu trin yn gyfartal. Rydyn ni wedi datblygu partneriaeth â VERCIDA, sef y safle gyrfaoedd mwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ein holl swyddi gwag wedi’u rhestru ar VERCIDA hefyd. Cliciwch yma i weld ein swyddi gwag mewn fformat hygyrch. Os oes gennych chi anabledd, byddwch yn cael dewis mynd drwy ein Extend Hub pan fyddwch yn gwneud cais.